Accessibility statement (Cymraeg / Welsh)

Datganiad hygyrchedd ar gyfer rhaglenni Haplo

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan eich sefydliad, sy’n defnyddio Haplo Services Ltd fel ei darparwr gwasanaethau.

Rydym ni’n awyddus i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn mae hyn y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a’r ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb i’r ysgrifen gael ei gwthio oddi ar ymyl y sgrîn
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gyda dim ond bysellfwrdd
  • symud o gwmpas o fewn y rhan fwyaf o’r wefan gyda meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gyda darllenydd sgrîn

Rydym ni hefyd wedi gwneud iaith y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae cyngor ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r rhaglen hon

Rydym yn ymwybodol bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai swyddogaethau gweinyddol yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau WCAG 2.1.

Beth i’w wneud os nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hygyrch

Cysylltwch â desg gymorth eich sefydliad, a fydd yn eich cynorthwyo neu drosglwyddo’ch cais i’w darparwr gwasanaeth.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon â‘r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae Haplo Services Ltd yn ymroddedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Heb gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai swyddogaethau gweinyddol ar gael i uwch-ddefnyddwyr yn unig wedi eu marcio’n llawn â rholiau ARIA a labeli. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys di-ysgrifen) WCAG 2.1.

Rydym ni’n bwriadu ymestyn marcio hygyrchedd llawn i swyddogaethau gweinyddol erbyn Medi 2020.

Baich anghymesur

Nid yw’n bosibl bob tro newid gogwydd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach i weld y cynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.4 (gogwydd) WCAG 2.1

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarpariaeth ein gwasanaethau.

Sut y gwnaethom ni brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan hon yn fwyaf diweddar ar 20 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd y prawf gan Haplo Services Ltd gan ddefnyddio offer profi hygyrchedd safonol.

Gan fod ein rhaglenni wedi eu haddasu ar gyfer pob sefydliad sy’n eu defnyddio, bu i ni brofi pob elfen i sicrhau eu bod yn cwrdd â’r safonau hygyrchedd mewn rhaglen wedi ei llawn ffurfweddu.

Beth rydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae ein map ffordd hygyrchedd yn cynnwys:

  • ymestyn cydymffurfio â WCAG 2.1 i’r swyddogaethau gweinyddol a ddefnyddir yn llai aml
  • gwella cynyddol mewn hygyrchedd mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr.

Paratowyd a diweddarwyd y datganiad hwn ar 20 Tachwedd 2019. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2019.